Equal Opportunities
At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Who we are
At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing.
We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs.
Role responsibilities
To lead, manage and further the development and direction of Transport for Wales (TfW) climate change and energy related plans, strategies and the technical reporting of activities (including but not limited to) climate change risk, adaptation, energy, and carbon management, across all modes of transport. This post also oversees the management of the Environmental Compliance Team, led by the Environmental Compliance Manager within Transport for Wales (TfW).
· Design and implement solutions and strategies to address the climate emergency aligned to Welsh policy and guidance, by working with colleagues and stakeholders to ensure TfW is prepared and is adapting and limiting risk.
· Be TfW’s technical expert for climate change and energy by providing advice to project teams and employees on climate change and energy and related specialist subjects to ensure TfW and its partners incorporate it into business decisions and are complying with relevant legislation, policy, and best practice.
· Input into site/project plans by providing advice on climate risk, carbon and energy at a strategic and site-based level to ensure TfW sites are operating in compliance with legislation and internal stakeholders have increased awareness of how the organisation can meet relevant targets and reduce energy consumption and emissions.
· Provide responses and evidence on climate change and energy related topics by responding to queries from a range of stakeholders including the Communications Team, Welsh Government and the Senedd, members of the public and interest groups to ensure a consistent response to related queries.
Who we’re looking for
· Possess a degree and/or MSc in a relevant science or policy subject for example, environmental, energy or climate science.
· Membership of relevant professional body (IEMA, IES or EI) and working towards chartered status (if not obtained already).
· Up to date knowledge of current climate change science with understanding of the impacts and policy in Wales.
· Demonstrable experience of delivering and reporting against the Environment (Wales) Act, Climate Change Act, and other related legislation.
Welsh Language Skills
The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role.
Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.
Next steps
Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details.
Transport for Wales is a disability leader. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful.
This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible.
Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications.
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, ac yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell ac i fod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb ei safbwynt ei hun, felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy wneud hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd mae’n teithio, fel bod pawb ohonom yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n weithle agored a chynhwysol, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i ddatblygu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r swydd
Arwain, rheoli a hyrwyddo datblygiad a chyfeiriad cynlluniau, strategaethau a chynlluniau Trafnidiaeth Cymru (TrC) ar gyfer y newid yn yr hinsawdd ac ynni, a gwaith adrodd technegol ar weithgareddau (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i) risg y newid yn yr hinsawdd, addasu, ynni a rheoli carbon, a hynny ar draws pob math o drafnidiaeth. Mae’r swydd hon hefyd yn goruchwylio’r gwaith o reoli’r Tîm Cydymffurfio Amgylcheddol, dan arweiniad y Rheolwr Cydymffurfio Amgylcheddol yn Trafnidiaeth Cymru (TrC).
· Cynllunio a gweithredu atebion a strategaethau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n cyd-fynd â pholisi a chanllawiau Cymru, gan weithio gyda chyd-weithwyr a rhanddeiliaid i sicrhau bod TrC yn barod, yn addasu ac yn lleihau risgiau.
· Bod yn arbenigwr technegol TrC ar y newid yn yr hinsawdd ac ynni drwy roi cyngor i dimau prosiect a gweithwyr ar y newid yn yr hinsawdd ac ynni, a phynciau arbenigol cysylltiedig, i sicrhau bod TrC a’i bartneriaid yn ymgorffori’r cyngor hwn mewn penderfyniadau busnes ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth, polisi ac arferion gorau perthnasol.
· Cyfrannu at gynlluniau safle/prosiect drwy ddarparu cyngor ar risg hinsawdd, carbon ac ynni ar lefel strategol ac ar y safle i sicrhau bod safleoedd TrC yn gweithredu’n unol â deddfwriaeth a bod rhanddeiliaid mewnol wedi cynyddu ymwybyddiaeth o sut gall y sefydliad gyrraedd targedau perthnasol a lleihau allyriadau a’r defnydd o ynni.
· Darparu ymatebion a thystiolaeth ar bynciau sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd ac ynni drwy ymateb i ymholiadau gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys y Tîm Cyfathrebu, Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru, aelodau o’r cyhoedd a grwpiau buddiant, er mwyn sicrhau ymateb cyson i ymholiadau cysylltiedig.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
· Meddu ar Radd a/neu MSc mewn pwnc gwyddonol neu bolisi perthnasol, er enghraifft gwyddorau amgylcheddol, ynni neu’r hinsawdd.
· Yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol (IEMA, IES neu EI) ac yn gweithio tuag at statws siartredig (os na ydych wedi’i gyrraedd yn barod).
· Gwybodaeth gyfredol am wyddoniaeth gyfredol newid yn yr hinsawdd, gyda dealltwriaeth o’r effeithiau a’r polisïau yng Nghymru.
· Profiad amlwg o ddarparu ac adrodd ar Ddeddf yr Amgylchedd, Deddf Newid Hinsawdd (Cymru) a deddfwriaethau perthnasol eraill.
Sgiliau Cymraeg
Byddai’r gallu i siarad/ysgrifennu yn y Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg gan weithwyr, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, i wella ac i gynnal eu sgiliau Cymraeg. Rydym ni’n rhoi cefnogaeth lawn i'n staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd fel dysgu ar-lein, cyrsiau mewn ystafell ddosbarth a chyllid i fynd i gyrsiau cymunedol lleol.
Y camau nesaf
Ai'r swydd hon yw'r cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn arweinydd ym maes anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau.